Iöb 31 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXI.

1 Ammod a wneuthum i â’m llygaid,

Gan hynny pa Os gŵyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd,

Ac ar ol fy llygaid yr aeth fy nghalon,

Ac wrth fy nwylaw y glynodd mefl,

8Bydded i mi hâu ac arall fwytta,

Ac i’m hiliogaeth gael eu dadwreiddio:

9Os trawsddenwyd fy nghalon o achos gwraig,

Ac wrth ddrws fy nghymmydog y cynllwynais,

10 Maled fy ngwraig i (wr) arall,

A throsti penlinied ereill,

11Canys hynny (sydd) anfadrwydd,

A hynny yn bechod (i’w gospi gan) y barnwŷr,

12Ië tân (yw) hynny, hyd ddistryw yr ysa,

A’m holl eiddo a ddadwreiddiai efe:

13Os dïystyrais iawn achos fy ngwas

A’m llaw-forwyn, pan ymrysonent â mi,

14Yna pa beth a wnawn i pan gyfodai Duw,

A phan ymwelai Efe, pa beth a attebwn i Iddo?

15— Onid yn y groth yr Hwn a’m gwnaeth i a’i gwnaeth yntau,

Ac Un a’n lluniodd ni yn y bru? —

16Os naccëais chwennychiad yr anghenogion,

Ac i lygaid y weddw y perais nychdod,

17Ac y bwyttëais fy nhammaid yn unig,

Ac na fwyttâodd yr amddifad o hono,

18— Yn hytrach, o’m hieuengctid y mawrhâodd efe fi fel tad,

Ac o groth fy mam yr hyfforddais hithau;

19Os gwelais un ar drengi heb ddillad,

A diffyg gorchudd gan yr anghenog,

20Os na fendithiodd ei lwynau Ef fi,

A chan gnu fy ŵyn nad ymgynhesodd efe;

21Os ysgydwais fy llaw yn erbyn yr amddifad,

Am i mi weled fy nghymmorth yn y porth,

22Bydded i’m hysgwydd syrthio oddi wrth ei chrafell,

Ac i’m hiselin ei chwilfriwio oddi wrth y fraich,

23— O herwydd mai arswyd i mi (oedd) dinystr Duw,

A rhag Ei ardderchowgrwydd Ef na allwn ddim; —

24Os gwneuthum aur yn hyder i mi,

Ac wrth yr aur coeth y dywedais “Fy ymddiried (wyt):”

25Os llawenychais am mai mawr (oedd) fy nghyfoeth,

Ac am mai helaethrwydd a ennillodd fy llaw:

26 Os edrychais at y gannaid pan dywynnai,

Ac at y lleuad yn cerdded yn ddisglaer,

27Ac y trawshudwyd fy nghalon yn y dirgel,

A’m llaw a gusanodd fy ngenau,

28Hefyd hyn (fuasai) bechod i’r barnwŷr (ei gospi)

Am wadu o honof Dduw oddi uchod:

29Os llawenychais yn nhrychineb fy nghasâwr,

Ac ymgyffrôi o honof am i ddrwg gael hŷd iddo,

30— (Naddo,) ond ni channiattêais i daflod fy ngenau bechu

I ofyn ei einioes ef trwy regiad: —

31 Os na ddywedodd dynion fy mhabell,

“Pwy a ddengys (y dyn) na orddigonwyd o’i gig ef?”

32— Yn yr heol ni lettyai ’r dieithr ddyn,

Fy nrysau i’r ymdeithydd a agorwn i: —

33Os celais, fel (y gwna) dyn, fy nghamweddau,

Gan guddio fy nhrosedd yn fy mynwes,

34O herwydd i mi ofni y dyrfa liosog,

Ac i ddirmyg teuluoedd fy nychrynu,

Fel y tâwn (ac) nad awn allan o’m drws —

35O na bai i mi y neb a’m gwrandawai!

Wele fy arwyddnod. Bydded i’r Hollalluog fy atteb!

Ac (o na bai) gennyf y gyhuddgwyn a ’sgrifenodd fy ymddadleuwr!

36 Onid ar fy ysgwydd y dygwn i hi,

Ac y’i rhwymwn hi yn goron i mi?

37 Rhifedi fy nghamrau a fynegwn i Iddo,

Fel tywysog y nesâwn atto Ef:

38Os yn fy erbyn y mae fy nhir yn llefain,

Ac hefyd ei gwysau ŷnt yn wylo,

39Os ei gryfdwr a fwyttêais heb arian,

Ac enaid ei berchennogion a chwŷthais ar wasgar,

40Yn lle gwenith deued allan (o hono) ddrain,

Ac yn lle haidd chwỳn niweidiol!

Diweddwyd geiriau Iöb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help