S. Ioan 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A’r trydydd dydd, priodas oedd yn Cana Galilea, ac yr oedd mam yr Iesu yno;

2a galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas.

3A chwedi pallu o’r gwin, dywedodd mam yr Iesu Wrtho, Gwin nid oes ganddynt.

4Ac wrthi y dywedodd yr Iesu, Pa beth sydd i Mi a wnelwyf â thi, wraig?

5Ni ddaeth etto mo Fy awr. Dywedodd Ei fam wrth y gwasanaethwyr, Pa beth bynnag a ddywedo Efe wrthych, gwnewch.

6Ac yr oedd yno ddyfr-lestri meini, chwech o honynt, yn ol defod puredigaeth yr Iwddewon, yn sefyll, ac yn dal, bob un, ddau ffircyn neu dri.

7Wrthynt y dywedodd yr Iesu, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr: a llanwasant hwynt hyd at yr ymyl:

8a dywedodd wrthynt, Tynnwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant.

9A phan archwaethodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethpwyd yn win, ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, (ond y gwasanaethwyr a wyddent, sef y rhai a dynnasant y dwfr), galw ar y priod-fab a wnaeth llywodraethwr y wledd,

10a dywedodd wrtho, Pob dyn a esyd yn gyntaf y gwin da; a phan feddwont, yr hwn sydd waelach; tydi a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.

11Hyn o ddechreu Ei arwyddion a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilea, ac amlygodd Ei ogoniant; a chredu Ynddo a wnaeth Ei ddisgyblion.

12Wedi hyn yr aeth i wared i Caphernahwm, Efe a’i fam a’i frodyr ac Ei ddisgyblion; ac yno yr arhosasant nid nemmawr o ddyddiau.

13Ac agos oedd Pasg yr Iwddewon, ac aeth yr Iesu i fynu i Ierwshalem.

14A chafodd yn y deml y rhai yn gwerthu eu hychen a defaid a cholommenod, a’r newidwyr arian yn eu heistedd: ac wedi gwneud fflangell o gyrt, bwriodd bawb allan o’r deml, ac y defaid, ac yr ychen;

15ac i’r newidwyr arian y tywalltodd allan eu harian, ac eu byrddau a ddymchwelodd Efe;

16ac wrth y rhai yn gwerthu’r colommenod y dywedodd, Cymmerwch y pethau hyn oddi yma; na wnewch dŷ Fy Nhad yn dŷ marchnad.

17A chofiodd Ei ddisgyblion ei fod yn ysgrifenedig,

“Zel am Dy dŷ a’m hysodd.”

18Attebodd yr Iwddewon, gan hyny, a dywedasant Wrtho, Pa arwydd a ddangosi i ni, gan mai’r pethau hyn a wnei?

19Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, Chwalwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.

20Dywedodd yr Iwddewon, gan hyny, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu’r deml hon, a thydi mewn tridiau y’i cyfodi hi!

21Ond Efe a ddywedasai am deml Ei gorph. Gan hyny,

22pan gyfododd o feirw, cofiodd Ei ddigyblion mai hyn a ddywedasai; a chredasant yr Ysgrythyr a’r gair a ddywedasai yr Iesu.

23A phan yr oedd Efe yn Ierwshalem ar y Pasg, yn yr wyl, llawer a gredasant yn Ei enw, wrth weled Ei arwyddion Ef, y rhai a wnaethai;

24ond yr Iesu Ei hun nid ymddiriedodd Ei hun iddynt am Ei fod yn adnabod pawb,

25ac am nad oedd Iddo raid i neb dystiolaethu Iddo am ddyn, canys Efe Ei hun a wyddai pa beth oedd mewn dyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help