Psalmau 84 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LXXXIV.

1I’r blaengeiniad, ar y aderyn y to a gafodd dŷ, a’r wennol nŷth iddi,

Lle y gesyd hi ei chywion,

(Sef) Dy allorau Di, O Iehofah y lluoedd,

Fy Mrenhin a’m Duw!

5Gwŷn fyd preswylwyr Dy dŷ,

Etto y’th foliannant! Selah.

6Gwŷn fyd y dyn (y mae) ei gadernid ynot Ti;

(Ac y mae) ’r prif-ffyrdd yn eu calon!

7 nerth i nerth,

Ymddengys (pob un) ger bron Duw yn Tsïon!

9O Iehofah, Duw ’r lluoedd, clyw fy ngweddi,

Gwrando, O Dduw Iacob! Selah.

10O ein Tarian, gwel, O Dduw,

Ac edrych ar wyneb Dy enneiniog,

11Canys gwell diwrnod yn Dy gynteddau Di nâ mil!

Dewiswn orwedd wrth y rhiniog yn nhŷ fy Nuw,

O flaen trigo ymhebyll yr annuwiol;

12Canys Haul a Tharian (yw) Iehofah Dduw,

Gras a gogoniant a rydd Iehofah,

Ni ommedd Efe ddaioni i’r ymrodwyr mewn diniweidrwydd!

13Iehofah y lluoedd,

Gwŷn fyd y dyn a ymddiriedo ynot Ti!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help