1Eiddo Dafydd. Psalm.
Am drugaredd ac uniondeb y canaf,
I Tydi, O Iehofah, y tarawaf y tannau:
2Byddaf bwyllog mewn ffordd ddiniweid,
—Pa bryd y deui attaf?—
Ymrodiaf yn niniweidrwydd fy nghalon yn fy nhŷ:
3Ni osodaf o flaen fy llygaid beth anwir,
Gwaith yr encilwyr sydd gas gennyf,
Ni lŷn wrthyf fi;
4Calon ŵyr-dröus gaiff gilio oddi wrthyf,
Drygioni nid adnabyddaf:
5A enllibio yn ddirgel ei gymmydog, hwnnw a ddifaf,
Y dyrchafedig o lygaid a chwyddedig o galon, hwnnw ni ddioddefaf:
6Fy llygaid (ŷnt) ar ffyddloniaid y tir fel y trigont gyda mi,
A rodio mewn ffordd ddiniweid,—hwnnw a’m gwasanaetha;
7Ni chaiff drigo yn fy nhŷ wneuthurwr twyll,
Llefarwr celwydd ni chaiff sefyll o flaen fy llygaid;
8Pob bore y difaf holl annuwiolion y tir,
I dorri ymaith o ddinas Iehofah holl weithredwyr anwiredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.