1I’r blaengeiniad; ar Shoshanim. Eiddo Dafydd.
2Cynhorthwya fi, O Dduw,
Canys daeth y dyfroedd hyd at fy einioes,
3Soddi yr wyf mewn llacea dwfn, ac nid (oes) sefyll,
Daethum i ddyfnder dyfroedd, a ’r ffrwd a lifodd drosof;
4Blinais wrth alw o honof, llosgi y mae fy ngwddf,
Pallodd fy llygaid, wrth ddisgwyl wrth fy Nuw;
5Amlach na gwallt fy mhen yw fy nghaseion dïachos,
wyddost fy anwiredd,
A’m camweddau, rhagot Ti ni chuddiwyd (hwynt).
7Na chywilyddier ynof y rhai a ddisgwyliant Wrthyt,
O Arglwydd, Iehofah y lluoedd;
Na waradwydder ynof y rhai a’th geisiant,
O Dduw Israel!
8Canys o’th achos Di y dygaf warthrudd,
Y gorchuddia gwaradwydd fy ngwyneb.
9Yr aethum yn ddïeithr i’m brodyr,
Ac yn estron i feibion fy mam.
10Canys zel am Dy dŷ a’m hysodd.
A gwarthruddiadau Dy warthruddwyr Di a syrthiasant arnaf; —
11Ac wylais gan ymprydio o honof,
Ac aeth (hynny) yn warthrudd i mi; —
12A gwnaethum sachlïain yn wisg i mi,
Ac aethum iddynt yn ddïareb:—
13Son am danaf a wnae’r eisteddwyr (yn) y porth,
A wnae caniadau y rhai a yfent win;
14Eithr myfi,—fy ngweddi (sydd) attat Ti, O Iehofah;
Yn amser cymmeradwyaeth, O Dduw, yn amlder Dy drugaredd,
Gwrando fi yn ffyddlondeb Dy gynhorthwy!
15Gwared fi o’r llaid, ac na soddwyf,
Gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o ddyfnderau’r dyfroedd!
16Na lifed y ffrwd ddwfr drosof,
Ac na lyngced dyfnder (y llacca) fi,
Ac arnaf na chaued y pydew ei safn!
17Gwrando fi, O Iehofah, canys da Dy drugaredd,
Yn ol amlder Dy dosturiaethau edrych arnaf,
18Ac na chuddia Dy wyneb oddi wrth Dy was,
Canys cyfyngder (sydd) arnaf, brysia, gwrando fi!
19Nesâ at fy enaid, gwared ef,
O herwydd ty ngelynion rhyddhâ fi!
20Tydi wyt yn gwybod fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd,
A cher Dy fron Di (y mae) fy holl elynion:
21Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon, a chlafychais,
A disgwyliais (am rai) i dosturio (wrthyf),—ond nid oedd neb,
Ac am gysurwyr,—ond ni chefais neb;
22Rhoddasant yn fy mwyd wenwyn,
Ac yn fy sychder y’m diodasant â finegr:
23Bydded eu bwrdd hwynt, ger eu bron, yn fagl,
Ac yn hoenyn iddynt, pan mewn heddwch!
24Tywyller eu llygaid fel na welont,
A’u llwynau, gwna iddynt bob amser siglo!
25Tywallt arnynt Dy ddig,
A bydded i ennynfa Dy lidiowgrwydd eu goddiwedd!
26Bydded eu corlan yn anghyfannedd,
Ac yn eu pebyll na fydded preswylydd!
27Canys Tydi,—yr hwn a darewaist Ti, a erlidiant hwy,
Ac at ofid Dy archolledigion y rhifant (ereill).
28Dyro gosp yn ol eu hanwiredd,
Ac na ddelont i’th gyfiawnhâd!
29Dilëer hwynt o lyfr bywyd,
A chyda’r cyfiawn rai na scrifener hwynt!
30Eithr myfi,—y truan a gofidus,
Dy gymmorth Di, O Dduw, a’m dïogelo!
31Moliannaf enw Duw ar gân,
Mawrygaf Ef â thalu dïolch;
32A da fydd (hynny) gan Iehofah, rhagor eidion,
(Neu) ŷch corniog, ewinholltog:
33Gwel y trueiniaid (hyn), a llawenychant,
(Sef) chwychwi sy’n ceisio Duw, a byw fydd eich calon,
34Canys gwrando ar yr anghenus (y mae) Duw,
A’i garcharorion ni ddiystyra Efe:
35Molwch Ef, O nefoedd a daear,
Y moroedd, a phob ymlusgiad ynddynt,
36Canys Iehofah a gynhorthwya Tsïon,
Ac a adeilada ddinasoedd Iwdah;
A thrigant yno, a meddiannant hi,
37A hâd Ei weision a’i hetifeddant hi,
A hoffwyr Ei enw Ef a breswyliant ynddi!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.