1 yr ymadrodd ynghylch babilon yr hwn a welodd eshaiah mab amots.
2 Ar fynydd uchel dyrchefwch lumman,
Dyrchefwch lef attynt, amneidiwch â llaw,
Fel yr elont i fewn pyrth pendefigion.
3Myfi a orchymynais i Fy nghyssegredig (filwŷr);
A gelwais Fy ngedyrn i’m digter,
Y rhai a ymhyfrydant yn Fy mawredd.
4 Swn tyrfa yn y mynyddoedd megis pobl aml,
Swn twrf teyrnasoedd, cenhedloedd ymgynnulledig,
Iehofah y lluoedd (sy) ’n cyfrif y llu i ryfel.
5Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd,
Iehofah ac arfau Ei lidiowgrwydd, i ddifa ’r holl dir.
6Udwch! canys agos diwrnod Iehofah,
Megis anrhaith oddiwrth yr Hollalluog y daw.
7 Am hynny yr holl ddwylaw a laesa,
A phob calon dyn a dawdd, a hwy a ddychrynir.
8Gwewyr a doluriau a’u deil hwynt,
Megis gwraig yn esgor yr ymofidiant;
Pawb wrth ei gymhar a ryfeddant;
Gwynebau fflamllydd yw eu gwynebau hwynt.
9Wele, dydd Iehofah yn dyfod, yn greulon,
Ië, digofaint, a llosgiad llid,
I osod y wlad yn ddiffaethwch,
A’i phechaduriaid a ddifa Efe allan o honi.
10Ië, sêr y Nefoedd, a’u sêr-gynnullion,
Ni ddanfonant allan eu llewyrch;
Tywyllwyd yr haul yn ei godiad,
A’r lleuad ni oleua ei llewyrch.
11 A Mi a ymwelaf â’r byd (am) ei ddrygioni,
Ac â’r annuwiolion (am) eu hanwiredd;
Ac attaliaf falchder y rhai rhyfygus,
Ac uchder y rhai ofnadwy a ostyngaf.
12Gwnaf ddyn yn werthfawroccach nag aur pur,
Ië, gwr nag aur coeth Ophir.
13Am hynny y Nefoedd a ysgydwaf,
Ac fe gryn y ddaear o’i lle
Yn nigofaint Iehofah y lluoedd,
Ac yn nydd llosgiad Ei lid Ef.
14A’r gweddill a fydd fel ewig wedi ei tharfu,
Ac fel defaid heb neb a’u coleddo;
Pawb at eu pobl eu hun a wynebant,
A phawb i’w gwlad eu hun a ffoant.
15Pob un a ddelir a drywenir,
A’r holl rai ymgyssylltiedig a syrthiant trwy ’r cleddyf.
16A’u babanod a ddryllir o flaen eu llygaid,
Yspeilir eu tai, a’u gwragedd a dreisir.
17 Wele Fi yn cyfodi yn eu herbyn hwy y Mediaid,
Y rhai ar arian ni roddant fri,
A’r aur, nid ymhyfrydant ynddo.
18A’(u) bwäau a 2ddrylliant 『1y gwŷr ieuaingc,』
Ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant,
Wrth blant ni thrugarhâ eu llygaid hwynt.
19A bydd Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd
Gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid,
Megis dinystr Duw ar Sodom a Gomorrah.
20Ni chyfanneddir hi yn dragywydd,
Ac ni phreswylir hi yn oes oesoedd,
Ac 2yno ni 1phabella ’r Arabiad,
A’r bugeiliaid ni chorlannant yno.
21Ond fe orwedd yno anifeiliaid gwylltion yr anialwch,
A llenwir eu tai o fwystfilod udawl,
Ac fe drig yno gywion yr estrys,
A’r ellyllon a lammant yno.
22A chyd-ettyb y bleiddiaid yn eu palasau,
A’r dreigiau yn nhemlau moethineb;
Ac agos i ddyfod (yw) ei hamser,
A’i dyddiau nid estynir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.