S. Matthew 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A’r Iesu wedi Ei eni yn Bethlehem Iwdea, yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion o’r dwyrain a ddaethant i Ierwshalem, gan ddywedyd,

2Pa le y mae brenhin yr Iuddewon y sydd wedi Ei eni? canys gwelsom Ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli Ef.

3Ac wedi clywed hyn, Herod frenhin a gynnyrfwyd, a holl Ierwshalem gydag ef,

4a chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynodd â hwynt, Pa le y mae Crist i’w eni?

5A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Iwdea, canys fel hyn yr ysgrifenwyd trwy’r prophwyd,

6“A thydi, Bethlehem, tir Iwdea,

Nid y lleiaf wyt er dim ym mhlith tywysogion Iwdah,

Canys o honot y daw allan dywysog,

Yr hwn a fugeilia Fy mhobl Israel.”

7Yna Herod, wedi galw’r doethion yn ddirgel, a gafodd wybodaeth fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren;

8a chan eu danfon i Bethlehem, dywedodd, Ewch a chwiliwch yn fanwl am y plentyn; a phan gaffoch Ef, mynegwch i mi, fel y bo i minnau hefyd ddyfod a’i addoli Ef.

9A hwy, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o’u blaen, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y plentyn.

10A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair Ei fam; ac wedi syrthio i lawr addolasant Ef; ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant Iddo anrhegion, aur a thus a myrr.

12Ac wedi eu rhybuddio mewn breuddwyd, gan Dduw, i beidio â dychwelyd at Herod, hyd ffordd arall yr aethant yn eu holau i’w gwlad.

13Ac wedi myned o honynt, wele, angel yr Arglwydd yn ymddangos, mewn breuddwyd, i Ioseph, gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf wrthyt, canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn er mwyn Ei ladd Ef.

14Ac wedi cyfodi o hono, cymmerth efe y plentyn a’i fam o hŷd nos, a chiliodd i’r Aipht;

15a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, “O’r Aipht y gelwais Fy Mab.”

16Yna Herod, pan weles ei watwar gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy flwydd oed a than hyny, wrth yr amser y cawsai wybodaeth fanwl gan y doethion.

17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremiah y prophwyd, gan ddywedyd,

18“Llef yn Rama a glybuwyd,

Wylofain a galar mawr;

Rachel yn wylo am ei phlant,

Ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.”

19Ac wedi marw Herod, wele, angel yr Arglwydd, mewn breuddwyd,

20a ymddangosodd i Ioseph yn yr Aipht, gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y plentyn a’i fam, a dos i dir Israel, canys bu farw y rhai oedd yn ceisio einioes y plentyn.

21Ac efe, wedi cyfodi, a gymmerth y plentyn a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel;

22ond wedi clywed fod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle Herod, ei dad, ofnodd fyned yno: ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, ciliodd i barthau Galilea,

23a daeth a thrigodd mewn dinas a elwid Natsareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r prophwydi, “Natsaread a elwir Ef.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help