S. Matthew 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A chan weled y torfeydd esgynodd i’r mynydd; ac wedi eistedd o Hono, daeth Ei ddisgyblion Atto;

2ac wedi agor Ei enau, dysgodd hwynt, gan ddywedyd,

3Gwyn eu byd y tlodion yn yr Yspryd; canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

4Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru; canys hwy a ddiddenir.

5Gwyn eu byd y rhai addfwyn; canys hwy a etifeddant y ddaear.

6Gwyn eu byd y rhai sydd â newyn a syched arnynt am gyfiawnder; canys hwy a ddiwellir.

7Gwyn eu byd y trugarogion; canys wrthynt hwy y trugarheir.

8Gwyn eu byd y rhai pur o galon; canys hwy a welant Dduw.

9Gwyn eu byd y tangnefeddwŷr; canys hwy, plant Duw y’u gelwir.

10Gwyn eu byd y rhai a erlidwyd o achos cyfiawnder; canys eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.

11Gwyn eich byd, pan y’ch gwaradwyddant ac eich erlid, ac y dywedant bob drwg yn eich erbyn, gan gelwyddu, o’m hachos I:

12llawenychwch a gorfoleddwch, canys eich gwobr sydd fawr yn y nefoedd; canys felly yr erlidiasant y prophwydi a fuant o’ch blaen chwi.

13Chwychwi yw halen y ddaear; ond os yr halen a ddi-flasodd, â pha beth yr helltir ef? ni thâl mwy i ddim ond, wedi ei fwrw allan, i’w sathru gan ddynion.

14Chwychwi yw goleuni y byd: ni all dinas ei chuddio pan ar fryn y gorweddo;

15ac ni oleuent lusern a’i dodi tan y llestr, ond ar safle’r llusern, a llewyrcha i bawb sydd yn y tŷ:

16felly, llewyrched eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd.

17Na thybiwch y daethum i ddinystrio’r Gyfraith neu’r Prophwydi: ni ddaethum i ddinystrio ond i gyflawni hwynt;

18canys yn wir meddaf i chwi, nes myned heibio o’r nef a’r ddaear, nac un iot nac un pyncyn o’r Gyfraith a aiff heibio, nes i’r cwbl gael ei wneud.

19Pwy bynnag, gan hyny, a ddattodo un o’r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo felly i ddynion, lleiaf a elwir ef yn nheyrnas nefoedd; ond pwy bynnag a’u gwnelo ac a’u dysgo i ddynion, efe, mawr y’i gelwir yn nheyrnas nefoedd:

20canys meddaf i chwi, Os nad helaethach fydd eich cyfiawnder rhagor yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid, nid ewch i mewn, er dim, i deyrnas nefoedd.

21Clywsoch y dywedwyd wrth y rhai gynt, “Ni leddi;

22a phwy bynnag a laddo, dyledus fydd i’r farn;” ond Myfi wyf yn dywedyd wrthych, Pob un a ddigio wrth ei frawd, dyledwr fydd i’r farn; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, “Raca,” dyledwr fydd i’r Cynghor; a phwy bynnag a ddywedo, “More,” dyledwr fydd i’r Gehenna tanllyd.

23Gan hyny, os dygi dy rodd at yr allor, ac yno cofio o honot fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn,

24gâd yno dy rodd o flaen yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymmoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.

25Cyttuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech gydag ef ar y ffordd, rhag ysgatfydd i’r gwrthwynebwr dy draddodi at y barnwr, ac i’r barnwr dy draddodi at y gweinidog, a’th daflu yngharchar:

26yn wir meddaf i ti, ni ddeui ddim allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 Clywsoch y dywedwyd, “Ni wnei odineb;” ond yr wyf Fi

28yn dywedyd wrthych fod pob un y sy’n edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.

29Ac os dy lygad dehau a bair dramgwydd i ti, tyn ef allan a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph ei daflu i Gehenna.

30Ac os dy ddeheulaw a bair dramgwydd i ti, tor hi ymaith, a thafl oddiwrthyt, canys da yw i ti ddarfod am un o’th aelodau, ac na fo i’th holl gorph fyned ymaith i Gehenna.

31A dywedwyd, “Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar;”

32ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Pob un a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, gwneuthur iddi odineba y mae; a phwy bynnag a briodo wraig a ysgarwyd, godinebu y mae.

33Etto, clywsoch y dywedwyd wrth y rhai gynt, “Ni thyngi anudon, ond teli i’r Arglwydd dy lwon;”

34ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio a thyngu o gwbl; na myn y nef, canys gorseddfaingc Duw yw;

35na myn y ddaear, canys lleithig Ei draed yw; na myn Ierwshalem, canys dinas y Brenhin Mawr yw;

36ac myn dy ben na thwng, canys ni elli wneuthur un blewyn yn wyn neu yn ddu;

37ond bydded eich ymadrodd, Ië, Ië; Nag ê, nag ê; a’r hyn sydd dros ben y rhai hyn o’r drwg y mae.

38Clywsoch y dywedwyd, “Llygad am lygad, a dant am ddant;”

39ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych beidio â gwrthsefyll y dyn drwg; ond y neb a’th darawo di ar dy rudd ddehau, tro iddo y llall hefyd;

40ac i’r hwn a fynno ymgyfreithio â thydi, a chael dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd;

41a’r neb a’th gymhello di un filldir, dos gydag ef ddwy.

42I’r hwn a ofyno genyt, dyro; a’r hwn sy’n ewyllysio echwyna genyt ti, na thro oddi wrtho.

43Clywsoch y dywedwyd, “Ceri dy gymmydog, a chasei dy elyn:”

44ond yr wyf Fi yn dywedyd wrthych, Cerwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sydd yn eich erlid, fel yr eloch yn feibion i’ch Tad y sydd yn y nefoedd,

45canys peri y mae Efe i’w haul godi ar y rhai drwg a’r da, ac yn gwlawio ar gyfiawnion ac anghyfiawnion;

46canys os cerwch y sawl a’ch caront, pa wobr sydd i chwi? Onid yw’r treth-gymmerwŷr yn gwneud yr un peth?

47Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych yn ei wneuthur? Onid yw’r ethnigion yn gwneuthur yr un peth? Byddwch chwi, gan hyny, yn berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help