1Credadwy yw’r ymadrodd, Os swydd esgob a chwennych neb, gwaith ardderchog a ddymuna efe.
2Y mae rhaid, gan hyny, i’r esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr ei feddwl, yn weddaidd, yn lletteugar,
3yn athrawaidd, nid yn gwerylus, nid yn darawydd, eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddi-ariangar,
4yn llywodraethu yn dda ei dŷ ei hun, a’i blant ganddo mewn darostyngiad gyda phob difrifoldeb,
5(ac os ei dŷ ei hun na ŵyr neb pa sut i’w lywodraethu, pa fodd am Eglwys Dduw y gofala?)
6nid yn newyddian, rhag, wedi ymchwyddo o hono, i gondemniad diafol y syrthio.
7Y mae rhaid hefyd iddo fod a thystiolaeth dda iddo oddiwrth y rhai oddi allan, fel nad i waradwydd y syrthio ac i fagl diafol.
8Diaconiaid, yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i win lawer,
9nid yn budr-elwa, yn dal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.
10Ac y rhai hyn, profer hwynt yn gyntaf; yna gwasanaethont swydd diaconiaid, os diargyhoedd fyddant.
11Gwragedd yr un ffunud, y mae rhaid iddynt fod yn ddifrifol, nid yn enllibaidd, yn wyliadwrus, yn ffyddlawn ym mhob peth.
12Diaconiaid i un wraig byddont wŷr, yn llywodraethu yn dda eu plant ac eu tai eu hunain;
13canys y rhai a wasanaethasant swydd diaconiaid yn dda, gradd dda a ynnillant iddynt eu hunain, a llawer o hyfder yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
14Y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifenu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder:
15ond os tariaf, fel y gwypech pa fodd y mae rhaid ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a bonad y gwirionedd.
16Ac yn ddiddadl mawr yw dirgelwch duwioldeb, yr Hwn a amlygwyd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r cenhedloedd, a gredwyd Ynddo yn y byd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.