Psalmau 29 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXIX

1Psalm o eiddo Dafydd.

Moeswch i Iehofah, O feibion Duw,

Moeswch i Iehofah ogoniant a mawl;

2Moeswch i Iehofah ogoniant Ei enw,

Gwarogaethwch i Iehofah mewn addurniad sanctaidd!

3 Llais Iehofah (sydd) tros y dyfroedd,

Duw y gogoniant sy’n taranu,

(Ië) Iehofah tros ddyfroedd lawer;

4Llais Iehofah mewn grym,

Llais Iehofah mewn ardderchowgrwydd,

5Llais Iehofah a chwilfriwia ’r cedrwydd!

Ië, chwilfriwia Iehofah gedrwydd Lebanon,

6A gwnaiff iddynt lammu fel llo,

Lebanon a Shirion fel llwdn bual!

7Llais Iehofah a rydd fflammau gwahanedig tân,

8Llais Iehofah a bair grynfa i’r anialwch,

Crynfa a bair Iehofah i anialwch lydnu, ac a ddiddeilia ’r coedydd,

Ond yn Ei lŷs Ef pob peth a ddywaid “Gogoniant Iddo!”

10Iehofah sydd tros y llifeiriant yn orseddawg,

Gorseddawg yw Iehofah yn frenhin yn dragywydd!

11Iehofah, nerth i’w bobl a rydd Efe,

Iehofah a fendithia Ei bobl â heddwch!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help