Diarhebion 27 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXVII.

1Nac ymglodfora am y dydd y foru,

Canys ni wyddost ar ba beth yr esgor dydd.

2Clodfored arall di, ac nid dy enau dy hun,

Estron, ac nid dy wefusau dy hun.

3Trymder carreg, a phwys y tywod,—

Ond digllonedd y ffol (sydd) drymmach na hwy ill dau.

4Creulondeb llid, a llifeiriant digofaint,—

Ond pwy a saif o flaen eiddigedd?

5Gwell argyhoeddiad datguddiedig

Na chariad dirgel.

6Ffyddlon (yw) archollion carwr,

Ond helaethlawn cusanau cashâwr.

7Enaid a orddigonwyd a fathra ’r dil mel,

Ond enaid newynog, pob chwerw beth (sydd) felus (iddo).

8Fel aderyn yn crwydro o ’i nyth,

Felly gwr yn crwydro o ’i le.

9Ennaint ac arogl-darth a lawenhâ ’r galon,

Ond melusder cyfaill (sydd) o gynghor yr enaid.

10A ’th gyfaill dy hun, ac â chyfaill dy dad nac ymado,

Ac i dŷ dy frawd na ddos yn nydd dy drychineb;

(Canys) gwell cymmydog yn agos, na brawd ym mhell.

11Bydd ddoeth, fy mab, a llawenhâ fy nghalon,

Fel y dychwelwyf i ’m gwaradwyddwyr atteb.

12 Yn y bore yn gynnar iawn,—

Yn felldith y cyfrifir (hyn) iddo.

15Defni parhäus ar ddiwrnod gwlawog,

A gwraig ymrysongar,—cyffelyb ŷnt:

16A ’i hattalio hi sy’n attal y gwynt,

Ac olew y mae ei ddeheulaw yn myned yn ei erbyn.

17Haiarn â haiarn yr hogir,

A dyn a hoga wyneb dyn arall.

18A noddo ei ffigysbren, a fwytty ei ffrwyth ef,

Ac a ddiffynno ei feistr a anrhydeddir.

19Megis (mewn) dwfr gwyneb (a ettyb) i wyneb,

Felly calon dyn i ddyn.

20Annwn a difancoll ni orddigonir,

A llygaid dyn ni orddigonir.

21 dyn yn ol ei glod.

22Os maluri’r ffol mewn malur-lestr,

Ymhlith malurion ŷd, â phestl,

Ni chilia ei ffolineb oddi wrtho.

23Gan adnabod adnebydd wyneb dy ddefaid,

Dyro dy feddwl ar y preiddiau;

24Canys nid yn dragywydd (y pery) cyfoeth,

Na choron chwaith o oes i oes,—

25 Dygir ymaith y gwair ac ymddengys y glaswellt,

A chesglir llysiau ’r mynyddoedd;

26Yr ŵyn (fydd) i ’th ddilladu,

A gwerth maes (yw)’r bychod;

27A digon o laeth geifr (fydd)

I ’th ymborth dy hun—i ymborth dy dŷ,

A chynhaliaeth i ’th langcesau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help