1Deuwch yn awr, y goludogion; gwylwch dan udo ar eich gofidiau y sy’n dyfod arnoch.
2Eich golud a bydrodd; a’ch gwisgoedd, gwyfed sydd yn eu hysu;
3eich aur a’ch arian a rydasant, ac eu rhwd fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac a fwytty eich cnawd fel tân. Trysorasoch yn y dyddiau diweddaf!
4Wele, cyflog y gweithwyr a fedasant eich meusydd, yr hwn a gam-attaliwyd, oddi wrthych y gwaedda; a bloeddiau y rhai a fedasant, i glustiau Iehofah y Tsabaoth y daethant i mewn.
5Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrinasoch eich calon mewn dydd lladdedigaeth;
6condemniasoch, lladdasoch y cyfiawn; nid yw yn ei osod ei hun i’ch erbyn.
7Byddwch ymarhöus, gan hyny, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, yr amaethydd sy’n disgwyl am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, yn ymarhöus am dano nes derbyn o hono y gwlaw cynnar a’r diweddar.
8Byddwch chwithau hefyd ymarhöus; sefydlwch eich calonnau, canys dyfodiad yr Arglwydd sydd agos.
9Na rwgnechwch, frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner; wele, y Barnwr, o flaen y drws y mae’n sefyll.
10Cymmerwch, frodyr, megis siampl o ddrwg-driniaeth a hir-ymaros, y prophwydi, y rhai a lefarasant yn enw’r Arglwydd.
11Wele, bendigedig a gyfrifwn y rhai a oddefasant. Am amynedd Iob y clywsoch; a diwedd yr Arglwydd a welsoch, mai mawr Ei dosturi yw’r Arglwydd ac yn drugarog.
12Ond o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, na myn y nef, na myn y ddaear, na neb rhyw lw arall; ond bydded eich ïe chwi yn ïe, a’ch nage yn nage, fel nad tan farn y syrthioch.
13Ai mewn adfyd y mae neb yn eich plith? Gweddïed.
14Ai siriol yw neb? Caned fawl. Ai claf yw neb yn eich plith? Galwed atto henuriaid yr eglwys; a gweddïont drosto,
15gan ei enneinio ag olew yn enw’r Arglwydd, a gweddi ffydd a achub yr afiach, ac ei gyfodi a wna’r Arglwydd: ac os pechodau a wnaeth efe, maddeuir iddo.
16Cyffeswch, gan hyny, i’ch gilydd eich pechodau; a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer: llawer a ddichon gweddi’r cyfiawn, yn ei gweithrediad.
17Elias oedd ddyn o gyffelyb wŷniau a ni, a thaer-weddïodd na byddai gwlaw; ac ni fu gwlaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis;
18a thrachefn y gweddïodd, a’r nef a roddes wlaw, a’r ddaear a roes flaen-darddiad ei ffrwyth.
19Fy mrodyr, os bydd i neb yn eich plith ei arwain ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef,
20gwybydded y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliornad ei grefydd, achub enaid o farwolaeth, a gorchuddio lliaws o bechodau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.