1A digwyddodd, tra yr oedd Apolos yn Corinth, i Paul, wedi tramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod i Ephesus, a chael rhai disgyblion;
2a dywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Yspryd Glân wrth gredu? A hwy a ddywedasant wrtho, Eithr ni chlywsom ddim a oes Yspryd Glân.
3A dywedodd, I ba beth, gan hyny, y’ch bedyddiwyd? A hwy a ddywedasant, I fedydd Ioan.
4A dywedodd Paul, Ioan a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl mai yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef y credent, hyny yw, yn yr Iesu.
5Ac wedi clywed hyn, bedyddiwyd hwynt i enw yr Arglwydd Iesu.
6Ac wedi dodi o Paul ei ddwylaw arnynt, daeth yr Yspryd Glân arnynt, a llefarasant â thafodau, a phrophwydasant.
7Ac yr oeddynt, yn y cwbl, ynghylch deuddeg o ddynion.
8Ac wedi myned i mewn i’r sunagog, llefarodd yn hyderus am dri mis, gan ymresymmu a pherswadio y pethau ynghylch teyrnas Dduw.
9A phan yr oedd rhai wedi caledu ac yn anufudd, gan ddywedyd yn ddrwg am y Grefydd ger bron y lliaws, gan sefyll draw oddi wrthynt neillduodd efe y disgyblion, gan ymresymmu beunydd yn ysgol Turannus:
10a hyn a fu am ddwy flynedd, fel y bu i bawb yn trigo yn Asia glywed Gair yr Arglwydd, yn Iwddewon a Groegiaid hefyd.
11A gwyrthiau nid cyffredin a wnaeth Duw trwy ddwylaw Paul,
12fel at y cleifion y dygid ymaith oddi wrth ei gorph napcynau neu foledau, ac yr ymadawai y clefydau â hwynt, a’r ysprydion aflan a aent allan.
13A chymmerodd rhai o’r Iwddewon crwydraid arnynt, consurwyr, enwi uwchben y rhai a chanddynt yr ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Tynghedaf chwi trwy yr Iesu yr Hwn y mae Paul yn Ei bregethu.
14Ac yr oedd saith mab rhyw Scefa, Iwddew ac archoffeiriad, yn gwneuthur hyn.
15A chan atteb, yr yspryd drwg a ddywedodd wrthynt, Yr Iesu a adwaen, a Paul sydd adnabyddus genyf, ond chwychwi, pwy ydych?
16A chan neidio arnynt o’r dyn yn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, a chan feistroli ar y ddau, gorchfygodd yn eu herbyn, fel yn noethion ac yn archolledig y ffoisant o’r tŷ hwnw.
17A hyn a fu hyspys gan yr holl Iwddewon a’r Groegiaid hefyd a breswylient yn Ephesus; a syrthiodd ofn ar yr oll o honynt, a mawrygid enw yr Arglwydd Iesu;
18a llawer o’r rhai a gredasant, a ddaethant gan gyffesu a mynegi eu gweithredoedd;
19a llawer o’r rhai a ddefnyddiasant swynyddiaeth, wedi dwyn eu llyfrau ynghyd, a’u llosgasant yngwydd pawb; a bwriasant eu gwerth hwynt,
20ac a’i cawsant yn bum myrddiwn o siclau arian; mor gadarn y bu i Air yr Arglwydd gynnyddu ac ymgryfhau.
21A phan gyflawnwyd y pethau hyn arfaethodd Paul trwy’r Yspryd, gwedi tramwy o hono trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Ierwshalem, gan ddywedyd, Ar ol bod o honof yno, y mae rhaid i mi weled Rhufain hefyd.
22Ac wedi danfon i Macedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timothëus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd rhyw faint o amser yn Asia.
23A digwyddodd ar yr amser hwnw, gynhwrf nid bychan ynghylch y Grefydd;
24canys rhyw Demetrius wrth ei enw, gof arian, yn gwneuthur temlau Diana o arian, a roddai i’r crefftwyr waith nid ychydig.
25Ac wedi casglu hwynt ynghyd, a’r rhai a weithient y fath bethau, dywedodd, Dynion, gwyddoch mai o’r gwaith hwn y mae ein helaethrwydd genym ni,
26a gweled a chlywed yr ydych, y bu, nid yn unig yn Ephesus eithr bron dros yr holl Asia, i’r Paul hwn berswadio a throi ymaith lawer o bobl, gan ddywedyd,
27Nid ydynt dduwiau, y rhai a wnair â dwylaw. Ac nid yn unig y rhan hon sydd mewn perygl i ni o ddyfod i ddirmyg, eithr teml y dduwies fawr Diana hefyd sydd mewn perygl o gael ei chyfrif yn ddiddym, ac i hithau hefyd gael ei thynnu i lawr o’i mawrhydi, yr hon y mae holl Asia a’r byd yn ei haddoli.
28Ac wedi clywed hyn, ac wedi myned yn llawn o ddigofaint, gwaeddasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
29A llanwyd y ddinas o’r terfysg; a rhuthrasant yn unfryd i’r chwareufa, wedi cipio Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cyd-ymdeithion Paul.
30A Paul yn ewyllysio myned i mewn at y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo.
31A rhai o bennaethiaid Asia, gan fod yn gyfeillion iddo, wedi danfon atto, a ddeisyfient arno beidio â myned i’r chwareufa.
32Rhai, gan hyny, a waeddent un peth, ac eraill beth arall, canys yr oedd y gynnulleidfa wedi ei therfysgu, a’r rhan fwyaf ni wyddent paham y daethent ynghyd.
33Ac allan o’r dyrfa y dygasant Alecsander, yr Iwddewon yn ei roddi ymlaen, ac Alecsander,
34wedi amneidio â’i law, a fynnai wneuthur ymddiffyniad wrth y bobl. Ond wrth wybod o honynt mai Iwddew yw,
35un llef fu, gan yr oll o honynt, yn gwaeddi am ynghylch dwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid. Ac ysgrifenydd y ddinas, wedi llonyddu’r dyrfa, a ddywedodd, Gwŷr Ephesus, canys pwy sydd o ddynion na ŵyr mai dinas yr
36Ephesiaid yw ceidwad teml Diana fawr ac o’r ddelw a syrthiodd i lawr oddiwrth Iwpeter? Gan na ellir, gan hyny,
37wrth-ddywedyd y pethau hyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, a pheidio â gwneuthur dim sydd fyrbwyll;
38canys dygasoch yma y dynion hyn, nac yn yspeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. Os oes, gan hyny, gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, air yn erbyn neb, y mae’r brawd-ddyddiau ar droed,
39ac y mae rhaglawiaid; cyhuddant y naill y llall; ond os ynghylch pethau eraill y ceisiwch rywbeth,
40mewn cynnulleidfa gyfreithlawn y penderfynir ef. Canys yr ydym, yn wir, mewn perygl o’n cyhuddo am y terfysg heddyw, heb ddim achos o hono yn bod; ac am y peth hwn nis gallwn roddi cyfrif am yr ymgyrch hwn.
41Ac wedi dywedyd hyn, gollyngodd ymaith y gynnulleidfa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.