1Cân yn llawen, O hesp yr hon nid esgoraist;
Tyr allan â llawen-gân, a gorfoledda, yr hon ni ddioddefaist wewyr;
Canys amlach meibion yr adawedig
Na meibion yr wriawg, medd Iehofah.
2Helaetha le dy babell,
3Estyner 1lleni dy 2breswylfa,
Nac attal, estyn dy raffau,
A’th hoelion sicrhâ,
3Canys ar y llaw ddehau ac ar yr aswy y torri allan,
A’th hâd a 2etifedda ’r 1cenhedloedd,
A dinasoedd anghyfannedd hwy a breswyliant.
4Nac ofna, canys ni ’th gywilyddir,
Ac na warthrudda, canys ni ’th waradwyddir:
Canys cywilydd dy ieuengctid ti a gei anghofio,
A gwaradwydd dy weddwdod ni chei gofio mwy:
5Canys dy wr (yw) dy Greawdydd,
Iehofah y lluoedd (yw) Ei enw;
A ’th Adbrynwr Sanct Israel,
Duw yr holl ddaear y gelwir Ef.
6Canys fel gwraig adawedig, a chystuddiedig o yspryd, y ’th adalwodd Iehofah,
Ac (fel) gwraig ieuengctid, er ei dirmygi hi, medd Iehofah dy Dduw.
7Dros ennyd fechan y’th adewais,
Ond â thrugareddau mawrion Mi a’th adgymmeraf.
8Mewn llifeiriant llid y cuddiais Fy wyneb tros ennyd oddi wrthyt,
Ond mewn rhadlondeb tragywyddol y trugarhâf wrthyt,
Medd dy Adbrynwr Iehofah.
9Megis dyfroedd Noah (y mae) hyn i Mi, i’r hwn y tyngais
Nad elai dyfroedd Noah etto dros y ddaear,
Felly y tyngais na ddigiaf wrthyt, ac na’th geryddaf.
10Canys y mynyddoedd a giliant,
A’r bryniau a siglant,
Ond Fy rhadlonedd I oddi wrthyt ni chilia,
A chyfammod Fy hedd ni sigl,
Medd yr Hwn (sy)’n trugarhau wrthyt, (sef) Iehofah.
11O gystuddiedig, wedi dy daflu gan dymmestloedd, yr hon ni thrugarhâwyd wrthyt,
Wele Myfi yn gosod 『2dy gerrig』 『1mewn cymmrwd sinobl,』
Ac a’th sylfaenaf â meini saphir.
12A gosodaf ruddemau i’th waleiau,
A’th byrth o garbynclau,
A’th holl derfynnau o gerrig dymunol.
13A’th holl feibion (a fyddant) wedi eu dysgu gan Iehofah.
A mawr (fydd) heddwch dy feibion.
14Mewn cyfiawnder y’th sicrhêir;
Bydd bell oddi wrth orthrymder, yn ddïau ni chei ei ofni,
Ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ attat.
15Wele gan ymgasglu yr ymgasglant, (ond) nid o honof Fi;
Pwy bynnag a ymgasglo i’th erbyn, attat ti y cilia efe.
16Wele Myfi a greais y gôf,
Yr hwn sy’n chwythu’r 2marwor 『1mewn tân,』
Ac yn dwyn allan arf yn ol ei waith;
A Myfi a greais y dinystrydd i ddistrywio.
17Pob arf, a lunier i’th erbyn, ni lwydda,
A phob tafod, a gyfodo i’th erbyn mewn barn, ti a’i bwri yn euog.
Hon (yw) etifeddiaeth gweision Iehofah,
A’u cyfiawnhâd oddi wrthyf Fi, medd Iehofah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.