1Molwch Iah!
Clodforaf Iehofah â (’m) holl galon
Ynghymmanfa ’r uniawn rai a’(u) cynnulleidfa!
2Mawr (yw) gweithredoedd Iehofah,
Ceisiedig gan yr holl rai a ymhyfrydont ynddynt;
3Ardderchowgrwydd a harddwch (yw) Ei waith Ef,
A’i gyfiawnder a saif hyd byth;
4 Coffadwriaeth a wnaeth Efe i’w ryfeddodau,
Graslawn a thosturiol (yw) Iehofah;
5 Ymborth a roes Efe i’r rhai a’i hofnasant,
—Cofia Efe yn dragywydd Ei gyfammod; —
6Cadernid Ei weithredoedd a hyspysodd Efe i’w bobl,
Gan roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd;
7Gweithredoedd Ei ddwylaw (ŷnt) ffyddlondeb ac unionder,
Diball (yw) Ei holl orchymynion,
8Yn sefydledig am byth (ac) yn dragywydd,
Yn wneuthuredig mewn ffyddlondeb a chyfiawnder;
9Rhyddhâd a anfonodd Efe i’w bobl,
Pennododd Ei gyfammod yn dragywydd;
Sanctaidd ac ofnadwy (yw) Ei enw!
10Dechreuad doethineb (yw) ofn Iehofah,
Deall da (sydd) gan yr holl rai a’u gwnelont;
Ei fawl Ef a saif hyd byth!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.