Diarhebion 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

II.

1Fy mab, os derbyni fy ngeiriau,

Ac fy ngorchymynion a guddi gyda thi;

2Fel y llymech dy glust i ddoethineb,

Ac y gogwyddech dy galon at ddeall;

3Ië, os ar ddeall y gelwi,

Ac at ddealltwriaeth y cyfodi dy lef,

4Os ceisi hi fel arian,

Ac, fel am drysorau cuddiedig, y chwili am dani,

5Yna y dealli di ofn Iehofah,

A gwybodaeth Duw a ddarganfyddi,

6Canys Iehofah sy’n rhoddi doethineb,

Allan o’i enau Ef (y mae) gwybodaeth a deall;

7Efe a drysora i’r rhai uniawn gymmorth,

(A)tharian i’r rhai sy’n rhodio yn berffaith,

8I amddiffyn llwybrau barn,

Ac Iddo gadw ffordd Ei saint Ef:

9Yna y dealli gyfiawnder, a barn,

Ac uniondeb, a holl lwybrau daioni,

10Canys daw doethineb i ’th galon,

A gwybodaeth i’th enaid a fydd felus,

11Pwyll a wylia drosot,

Deall a’th amddiffyn;

12I ’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg,

Ac oddi wrth y dyn sy’n llefaru gŵyrdröad,

13(Sef) y rhai sy’n ymadael â llwybrau uniondeb

I rodio yn ffyrdd tywyllwch;

14Y rhai sy ’n ymlawenychu i wneuthur drwg,

(Ac) yn gorfoleddu yng ngwyrdröad y drygionus;

15Y rhai sydd â ’u llwybrau yn geimion,

Ac sydd drofäus yn eu ffyrdd:

16I’th achub oddi wrth y wraig nid yr eiddot,

Oddi wrth y ddïeithr a lyfnhâ ei geiriau,

17Yr hon a ymadawodd â chyfaill ei hieuenctid,

Ac a ollyngodd dros gof ammod ei Duw,

18Canys suddo at angau y mae ei thŷ hi,

Ac at y gwyllion ei llwybrau;

19Pawb a elont i mewn atti hi ni ddychwelant,

Ac ni chânt ymafael yn llwybrau bywyd:

20Er mwyn i ti rodio yn ffordd y rhai da,

A llwybrau ’r cyfiawn i ti eu cadw:

21Canys yr uniawn a breswyliant y ddaear,

A ’r perffaith rai a weddillir ynddi;

22Ond yr annuwiolion, oddi ar y ddaear y torrir hwy,

A ’r troseddwyr a ddiwreiddir allan o honi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help