Psalmau 109 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CIX.

1I’r blaengeiniad. Eiddo Dafydd. Psalm.

O Dduw fy moliant, na thaw,

2Canys genau ’r annuwiol a genau twyll a agorodd (dynion) i’m herbyn,

Llefarasant â mi â thafod celwyddog,

3Ac â geiriau casineb y’m cylchynasant,

Ac ymladdasant â mi heb achos;

4Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant,

—Eithr myfi, gweddi (i gyd wyf),—

5A rhoddasant i mi ddrwg am dda,

A chasineb am fy ngharedigrwydd!

6Gosod arno ef un annuwiol,

A gwrthwynebwr a safo ar ei ddeheulaw;

7Wrth ei farnu deued ef allan yn euog,

A’i weddi a eled yn bechod;

8Bydded ei ddyddiau yn ychydig,

Ei swydd ef cymmered arall;

9Aed ei blant yn amddifaid,

A’i wraig yn weddw,

10A chan grwydro crwydred ei blant, a chardottant,

A cheisiant (fara), allan o’u hanghyfannedd leoedd;

11Rhwyded yr ocrwr yr oll (oedd) ganddo,

Ac anrheithied estroniaid ei lafur;

12Na fydded iddo a barhao drugaredd,

Ac na fydded a dosturio wrth ei amddifaid;

13Bydded ei hiliogaeth i’w thorri ymaith,

—Yn y genhedlaeth nesaf dilëer eu henw;

14Adgoffer anwiredd ei dadau, o flaen Iehofah,

A phechod ei fam,—na ddilëer ef,

15Byddent hwy ger bron Iehofah beunydd,

A thorred Efe ymaith o’r ddaear eu coffadwriaeth;

16Am na chofiodd efe wneuthur trugaredd,

Eithr erlid o hono y gwr cystuddiedig ac anghenus,

A’r briwedig o galon, i’w ladd,

17A hoffi o hono felldith,—a daw hi iddo,

Ac nad ymhyfrydodd mewn bendith,—a phell fydd hi oddi wrtho,

18Ac ymwisgo o hono â melldith, fel â’i fantell,

—A daw hi, fel dyfroedd, i’w fewn,

Ac fel olew i’w esgyrn, ef,—

19Bydded hi iddo fel y dilledyn â’r hwn yr ymorchuddia efe,

Ac yn wasgrwym â’r hwn beunydd yr ymwregysa efe:

20Hyn (fo) tâl fy ngwrthwynebwyr, oddi wrth Iehofah,

A’r rhai a lefarant ddrwg yn erbyn fy enaid!

21Ond Tydi, O Iehofah fy Arglwydd,

Gwna â mi er mwyn Dy enw;

Am mai da Dy drugaredd, achub fi!

22Canys cystuddiedig ac anghenus myfi (wyf),

A’m calon a archollwyd o’m mewn;

23Fel cysgod, pan gwel 102:12.ymestyno, myned ymaith yr wyf,

Bwrir fi allan fel locust;

24Fy ngliniau a wegiant gan ymprydio,

A’m corph a deneuodd, heb frasder (arno);

25A myfi a aethum yn waradwydd iddynt,

Gwelant fi,—ysgydwant eu pen!

26Cynhorthwya fi, O Iehofah fy Nuw,

Achub fi yn ol Dy drugaredd,

27Fel y gwypont mai Dy law Di (yw) hyn,

Mai Tydi, O Iehofah, a’i gwnaethost!

28Melldithient hwynt-hwy,—ond, Tydi, bendithia;

Cyfodasant,—a chywilyddier hwynt,

Ond bydded i’th was lawenychu!

29Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth,

Ac ymorchuddient hwy, megis mewn cochl, â’u cywilydd!

30Clodforaf Iehofah yn ddirfawr â’m genau,

Ac ym mysg llawer y’i moliannaf,

31Canys saif Efe ar ddeheulaw ’r anghenus

I’w achub oddi wrth ddyfarnwyr ei enaid!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help