Eshaiah 50 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

L.

1Fel hyn y dywed Iehofah,

Pa le (y mae) ’r llythyr hwn o ysgar eich mam,

(Trwy) ’r hwn y gollyngais hi ymaith?

Neu pwy o’m hechwynwŷr (yw)

Yr hwn y’ch gwerthais chwi iddo?

Wele, am eich hanwireddau y’ch gwerthwyd chwi,

Ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.

2Pa ham y daethum ac nid undyn (yno)?

Y gelwais ac heb neb yn atteb?

Gan gwttogi a gwttogodd Fy llaw fel na waredai?

Neu onid (oes) ynof nerth i achub?

Wele, â’m cerydd y sychaf y môr,

Gwnaf yr afonydd yn ddiffaethwch,

Drewi a wna eu pysgod am nad (oes) dwfr,

A byddant feirw o syched.

3Yr wyf yn gwisgo ’r nefoedd â chaddug,

A sachlïain yr wyf yn ei gosod yn dô iddynt.

4Yr Arglwydd Iehofah a roddes i mi dafod y dysgedig,

I gynnal y diffygiol â gair.

Efe a ddeffry yn y bore, ac yn y bore,

Efe a ddeffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.

5Yr Arglwydd Iehofah a agorodd fy nghlust,

A minnau ni wrthryfelais,

Ac yn ôl ni chiliais.

6Fy nghefn a roddais i’r curwŷr,

A’m cernau i’r rhai a ddadwreiddiai (’r farf),

Fy wyneb ni chuddiais oddi wrth waradwydd a phoeredd.

7Canys yr Arglwydd Iehofah a’m cymmorth,

Am hynny ni ’m cywilyddir;

Am hynny gosodais fy wyneb fel callestr,

A gwn na ’m cywilyddir.

8Agos (yw) ’r Hwn a’m cyfiawnhâ;

Pwy (yw) ’r hwn a ymryson â mi? Safwn ynghŷd.

Pwy (yw) perchen dadl â mi? Nesâed attaf.

9Wele, yr Arglwydd Iehofah a’m cymmorth;

Pwy (yw) ’r hwn a’m bwrw yn euog?

Wele, hwy oll, fel dilledyn, a ddarfyddant,

Y gwyfyn a’u hysa hwynt.

10Pwy yn eich mysg chwi sydd yn ofni Iehofah?

Gwrandawed ar lais Ei was Ef?

(Pwy) yn rhodio mewn tywyllwch ac heb lewyrch iddo?

Ymddirieded yn enw Iehofah,

A phwysed ar ei Dduw.

11 Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynneu tân,

Yn amgylchu eich hunain â gwreichion,

Rhodiwch yn llewyrch eich tân,

Ac yn y gwreichion a gynneuasoch.

O’m llaw I y bydd hyn i chwi,

Mewn gofid y gorweddwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help