II. Corinthiaid 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Canys gwyddom, os ein daearol dŷ o’r babell hon a ddattodir, fod adeilad oddiwrth Dduw genym, tŷ nid o waith llaw, tragywyddol, yn y nefoedd;

2canys yn hon yr ym yn ocheneidio, gan hiraethu am ymwisgo â’n tŷ y sydd o’r nef;

3os hefyd wedi ymwisgo, nid yn noethion y’n ceir;

4canys ni y sydd yn y babell hon, ocheneidio yr ydym, yn llwythog, nid am ewyllysio o honom ddiosg, eithr ymwisgo, fel y llyngcer y marwol gan fywyd.

5A’r hwn a’n gweithiodd ni i’r peth hwn ei hun yw Duw, yr hwn a roddodd i ni ernes yr Yspryd.

6Gan fod yn hyderus, gan hyny, bob amser, ac yn gwybod tra’r ydym yn gartrefol yn y corph,

7ein bod yn absennol oddiwrth yr Arglwydd (canys trwy ffydd y rhodiwn, ac nid wrth olwg,)

8hyderus ydym, a boddlonir ni yn hytrach i fod yn absennol o’r corph, a chartrefu gyda’r Arglwydd.

9O herwydd paham, ymorchestu yr ydym hefyd, pa un bynnag ai cartrefu yr ydym ai yn absennol, i fod yn gymmeradwy Ganddo Ef;

10canys i bawb o honom y mae rhaid ein hamlygu ger bron brawd-faingc Crist, fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.

11Gan wybod, gan hyny, ofn yr Arglwydd, dynion a berswadiwn, ond i Dduw y’n hamlygwyd, a gobeithiaf mai yn eich cydwybodau chwi hefyd y’n hamlygwyd.

12Nid ein canmol ein hunain i chwi drachefn yr ydym, eithr yn rhoddi i chwi achlysur ymffrost o’n plegid, fel y bo genych yn erbyn y rhai sy’n ymffrostio yn y golwg, ac nid yn y galon;

13canys pa un bynnag ai allan o’n pwyll yr ydym, i Dduw y mae;

14ai yn ein pwyll, i chwi y mae; canys cariad Crist sydd yn ein cymmell, gan farnu o honom y bu un farw dros bawb,

15a chan hyny, pawb a fuant feirw: a thros bawb y bu Efe farw, fel y byddai i’r rhai byw ddim mwyach fyw iddynt eu hunain, eithr i’r Hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.

16Felly nyni, o hyn allan, nid adwaenwn neb yn ol y cnawd; ac os adnabuom Grist yn ol y cnawd, etto yn awr nid adwaenom Ef mwyach felly.

17Felly os yng Nghrist y mae neb, creadur newydd yw; yr hen bethau a aethant heibio; wele, aethant yn newydd.

18A’r holl bethau, oddiwrth Dduw y maent, yr Hwn a’n cymmododd ag Ef Ei hun trwy Grist, ac a roddes i ni weinidogaeth y cymmod,

19sef yr oedd Duw yng Nghrist yn cymmodi y byd ag Ef Ei hun, heb gyfrif iddynt eu camweddau, ac wedi rhoddi ynom ni air y cymmod.

20Tros Grist, gan hyny, yr ym genhadau, fel â Duw yn deisyf trwom. Erfyn tros Grist yr ydym, Cymmoder chwi â Duw.

21Yr Hwn nad adnabu bechod, trosom ni a wnaeth Efe yn bechod, fel yr aem ni yn gyfiawnder Duw Ynddo Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help