1Yr henuriaid yn eich plith, gan hyny, a gynghoraf, a mi yn gydhenuriad a thyst o ddioddefiadau Crist, ac yn gyfrannog hefyd o’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio, porthwch braidd Duw y sydd yn eich plith;
2gan arolygu, nid trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar yn ol Duw; nid er mwyn budr-elw, eithr â meddwl parod;
3ac nid megis yn arglwyddiaethu ar y rhannau a ymddiriedwyd i chwi, eithr gan fyned yn esamplau i’r praidd:
4ac wedi ymddangos o’r Pen-Bugail cewch anniflannedig goron y gogoniant.
5Yr un ffunud, y rhai ieuengach, byddwch ddarostyngedig i’r rhai hynach. A phawb, byddwch y naill tua’r llall a gostyngeiddrwydd yn wregys genych, canys yn erbyn y beilchion y mae Duw yn Ei osod Ei hun, ond i’r rhai gostyngedig yn rhoddi gras.
6Gostynger chwi, gan hyny, dan rymus law Duw, fel y’ch dyrchafo chwi yn yr iawn amser,
7gyda’ch holl bryder wedi ei fwrw Arno Ef, canys maliaw y mae Efe am danoch.
8Byddwch sobr; gwyliwch: eich gwrthwynebwr diafol, fel llew yn rhuo, sy’n rhodio oddi amgylch,
9yn ceisio rhyw un i’w lyngcu; yr hwn gwrthsefwch, yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fod yr un dioddefiadau yn cael eu cyflawni gan eich brawdoliaeth y sydd yn y byd.
10A Duw’r holl ras, yr Hwn a’ch galwodd i’w dragywyddol ogoniant yng Nghrist, pan am ychydig y dioddefasoch, Ei hun a’ch perffeithia, a’ch cadarnha, a’ch cryfha.
11Iddo Ef y bo’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12Gyda Silfanus, y ffyddlawn frawd fel y’i cyfrifaf, yr ysgrifenais attoch ar ychydig eiriau, gan gynghori a thystiolaethu mai hwn yw wir ras Duw; ynddo ef sefwch.
13Eich annerch y mae y gyd-etholedig y sydd yn Babilon; a Marc, fy mab.
14Annerchwch y naill y llall â chusan cariad.
Tangnefedd i chwi oll y sydd yng Nghrist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.