Iöb 32 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXII.

1A pheidiodd y tri wŷr hyn âg atteb i Iöb, am ei fod ef yn gyfiawn yn ei olwg ei hun.

2Yna y cynneuodd digofaint Elihw mab Barachel y Bwziad, o deulu Ram; yn erbyn Iöb y cynneuodd ei ddigofaint ef am iddo gyfiawnhâu ei hun rhagor Duw;

3ac yn erbyn ei dri chyfaill y cynneuodd ei ddigofaint ef am na chawsent hwy hŷd i atteb, a barnu o honynt Iöb yn euog.

4Ac Elihw a arhosasai ar Iöb, yn (ei) leferydd, canys hŷn (oedd) y rhai hynny nag ef o ran dyddiau.

5Pan welodd Elihw nad (oedd) atteb yngenau y tri wŷr, cynneuodd ei ddigofaint ef:

6Yna yr attebodd Elihw mab Barachel y Bwziad, a dywedodd,

Bychan myfi o ran dyddiau, ond chwychwi (ŷch) benllwydion,

Gan hynny ymatteliais, ac ofnais

Adrodd fy ngwybodaeth i chwi;

7Dywedais “Dyddiau a lefarant,

A lliaws o flynnyddoedd a hyspysant ddoethineb:”

8Ond, yr yspryd, — (ïe) efe mewn dyn,

Ac anadl yr Hollalluog, a wna iddynt ddeall;

9Nid y lliosog (eu dyddiau) sydd ddoethion,

Neu’r hên sy’n deall yr iawn farn;

10Am hynny dywedais “Gwrando arnaf fi,

Adroddaf fy ngwybodaeth, — (ïe) hyd yn oed myfi.”

11Wele, disgwyliais am eich geiriau chwi,

Clust-ymwrandewais am eich deall chwi,

Nes yr holech ymadroddion (Iöb);

12Ac am danoch chwi y deliais sulw,

Ond, wele, nid (oes) i Iöb yr hwn a’i hargyhoedda,

Yr hwn a ettyb ei eiriau ef, (sef) o honoch chwi.

13 Na ddywedwch “Daethom ar draws doethineb,

Duw a’i tarf ef ac nid dyn:”

14Ond ni threfnodd efe ymadroddion yn fy erbyn i,

Ac yn eich geiriau chwi nid attebaf iddo.

15 Dychrynwyd hwynt, nid ŷnt yn atteb mwy,

Mudodd geiriau oddi wrthynt hwy:

16A ddisgwyliaf fi am nad ydynt hwy yn llefaru,

Am eu bod yn sefyll (ac) heb atteb o honynt mwy?

17Attebaf — hyd yn oed myfi, — fy rhan i,

Adroddaf fy ngwybodaeth, — (ïe) hyd yn oed myfi;

18Canys llawn wyf o leferydd,

Gwasgu arnaf y mae ’r yspryd (sef) ar fy mòl;

19 Wele, fy mòl (sydd) fel gwin nad agorwyd iddo,

Fel costrelau newyddion, ar hollti y mae efe;

20Llefaraf fel y rhodder gwŷnt i mi,

Agoraf fy ngwefusau ac attebaf;

21Ni ddygaf yn awr bleidgarwch i ddyn,

Ac wrth ddaearolyn ni wenhieithiaf,

22Canys ni fedraf ar wenhieithio,

Buan y dygai fy Ngwneuthurwr fi ymaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help