1Ac mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr, a rhyfeddol; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf: oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw.
2Ac mi a welais megis y saint.
4Exod 15:14, 15; Jer 10:7Pwy ni’th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid Esa 66:23yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.
5Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd Pen 11:19; Edrych Num 1:50teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored:
6A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o’r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a Exod 28:6, 8; Esec 44:17, 18; Pen 1:13gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.
7Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
8A llanwyd Exod 40:34; 1 Bren 8:10; Esa 6:4y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
