1Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg.
2Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais, Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a’i hyd yn ugain cufydd, a’i led yn ddeg cufydd.
3Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o’r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o’r tu acw, yn ei hôl hi.
4Dygaf hi allan, medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y Pen 8:17neb a dyngo i’m henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef, ac Edrych Lef 14:45a’i difa ef, a’i goed, a’i gerrig.
5Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.
6A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear.
7Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.
8Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a’i taflodd hi i ganol yr effa; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.
9A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a’r nefoedd.
10Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned â’r effa?
11Dywedodd yntau wrthyf, I Jer 29:5, 28adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
