1 Brenhinoedd 3 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Solomon yn priodi merch Pharo: 2 ac wrth aberthu yn uchelfa Gibeon, 5 yn cael gan Dduw ei ddewis rodd, ac yn dewis doethineb; ac yn cael doethineb, a chyfoeth, ac anrhydedd. 16 Barn Solomon rhwng y ddwy butain, yn ci wneuthur ef yn enwog.

1A drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.

7Ac yn awr, O Arglwydd fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn?

10A’r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd, am ofyn o Solomon y peth hyn.

11A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn:

12Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.

14Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, Pen 15:5megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di.

15A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr Arglwydd, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision.

16Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef.

17A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi.

18Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ.

19A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef.

20A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau.

21A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe.

22A’r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.

23Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw.

24A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin.

25A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall.

26Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys Hos 11:8ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef.

27Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef.

28A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help