2 Corinthiaid 7 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 60. —1 Y mae efe ym mhellach yn eu hannog i burdeb buchedd; 2 ac i ddwyn y cyfryw ewyllys da tuag ato ef, ag yr oedd yntau yn ei ddwyn tuag atynt hwy: 3 a rhag iddynt hwy feddwl ei fod ef yn amau hynny, y mae yn dangos pa gysur a gymerodd efe yn ei flinderau, pan fynegodd Titus y tristwch duwiol a weithiasai ei epistol cyntaf ef ynddynt 13 a’u caredigrwydd hwynt, a’u hufudd‐dod tuag at Titus, megis y bostiasai efe o’r blaen amdanynt hwy.

1Am hynny yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.

10Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.

11Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn.

12Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.

13Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.

14Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus.

15Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd‐dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.

16Am hynny llawen wyf, Pen 2:9; Phil 2:12; 2 Thess 3:4; Philem 1:8, 21am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help