1A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy.
5Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt?
6diffeithwch yn drigfa iddo.
7Efe a chwardd am ben lliaws tref: geilwad.
8Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn.
9A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di?
10A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di?
11A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo?
12A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di?
13A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod? neu adenydd a phlu i’r estrys?
14Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a’u cynhesa yn y llwch;
15Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru.
16Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn;
17Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall.
18Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a’i farchog.
19A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru?
20A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef.
21Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau.
22Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf.
23Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a’r darian.
24Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr utgorn yw.
25Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a’r bloeddio.
26Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau?
27Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac Jer 49:16; Obad ad. 4y gwna efe ei nyth yn uchel?
28Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a’r lle cadarn?
29Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell.
30Ei gywion hefyd a sugnant waed: a Mat 24:28; Luc 17:37lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.