Genesis 27 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Isaac yn anfon Esau am helwriaeth: 6 Rebeca yn dysgu Jacob i gael y fendith. 15 Jacob yn rhith Esau yn ei chael. 30 Esau yn dwyn ei saig. 33 Isaac yn dychrynu. 34 Esau yn cwynofain, a thrwy daerni yn cael bendith. 41 Yn bygwth Jacob. 42 Rebeca yn ei siomi ef.

1A bu, wedi heneiddio o Isaac, a Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: Pen 25:33dug fy ngenedigaeth‐fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau?

37Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, ad. 29; 2 Sam 8:14mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithau, fy mab, weithian?

38Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac Heb 12:17a wylodd.

39Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ad. 28; Heb 11:20ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod;

40Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, Pen 25:23; Obad ad. 18, 19, 20a’th frawd a wasanaethi: 2 Sam 8:14ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad; Obad ad. 10yna lladdaf Jacob fy mrawd.

42A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di.

43Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;

44Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;

45Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd?

46Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, Pen 26:35; 28:8Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help