1Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau.
2Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
3 daliasant: ing a blinder a gefais.
4Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
5Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
6Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd.
7Dychwel, O fy enaid, i’th orffwysfa; canys Salm 13:6yr Arglwydd fu dda wrthyt.
8 Salm 56:13 Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro.
9Rhodiaf o flaen yr Arglwydd Salm 27:13yn nhir y rhai byw.
10 2 Cor 4:13 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
11 Salm 31:22 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Rhuf 3:4Pob dyn sydd gelwyddog.
12Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi?
13Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.
14 Salm 22:25; ad. 18 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
15 Salm 72:14 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef.
16O Arglwydd, yn ddiau Salm 143:12dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, Salm 86:16mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
17Aberthaf i ti Lef 7:12aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd.
18 ad. 14 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
19Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
