2 Samuel 18 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd yn edrych ar y lluoedd yn myned allan, ac yn rhoddi gorchymyn ynghylch Absalom. 6 Lladdfa fawr ar yr Israeliaid yng nghoed Effraim. 9 Absalom ynghrog wrth ei wallt mewn derwen; a Joab yn ei ladd ef, ac yn ei fwrw mewn pydew. 18 Lle Absalom. 19 Ahimaas a Chusi yn dwyn newyddion i Dafydd. 33 Dafydd yn galaru am Absalom.

1A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid.

2A Dafydd a anfonodd o’r bobl y drydedd ran dan law Joab, a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi.

3Ond meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas.

4A dywedodd y brenin wrthynt hwy, Gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi. A’r brenin a safodd gerllaw y porth; a’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ac yn filoedd.

5A’r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom.

6Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel: a’r rhyfel fu yng nghoed Effraim.

7Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil.

8Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.

9Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith.

10A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.

11A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a’i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i’r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys?

12A dywedodd y gŵr wrth Joab, Pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyffwrdd o neb â’r llanc Absalom.

13Os amgen, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn.

14Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a’u brathodd trwy galon Absalom, ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen.

15A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a’i lladdasant ef.

16A Joab a utganodd mewn utgorn; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl.

17A hwy a gymerasant Absalom, ac a’i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed, ac ddial ef ar ei elynion.

20A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin.

21Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, Dos, dywed i’r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a redodd.

22Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas?

23Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi.

24A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.

25A’r gwyliedydd a waeddodd, ac a fynegodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd.

26A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad.

27A’r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gŵr da yw hwnnw, ac â chenadwriaeth dda y daw efe.

28Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin.

29A’r brenin a ddywedodd, Ai dihangol y llanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a’th was dithau, ond ni wybûm i beth ydoedd.

30A’r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd.

31Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywedodd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr Arglwydd a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn.

32A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ddihangodd y llanc Absalom? A dywedodd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti.

33A’r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; Pen 19:4O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help