1 Cronicl 21 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd, wedi ei demtio gan Satan, yn gyrru Joab i rifo y bobl, 5 ac wedi dwyn cyfrif y bobl ato, yn edifar ganddo hynny, 9 ac yn cael ei ddewis o dair pla, ac yn dewis haint y nodau, 14 ac wedi marw deng mil a thrigain o’r bobl, trwy edifeirwch, yn achub dinistr Jerusalem. 18 Dafydd, trwy gyngor Gad, yn prynu llawr‐dyrnu Ornan, ac yn gwneuthur yno allor, a Duw trwy dân yn rhoi iddo arwydd o’i ffafr, ac yn atal y pla. 28 Dafydd yn aberthu yno, wedi ei atal gan angel rhag myned i Gibeon.

1A y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel.

8A Dafydd a ddywedodd wrth Dduw, gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti.

11Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cymer i ti.

12Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddiweddyd; ai ynteu cleddyf yr Arglwydd, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr Arglwydd yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd.

13A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr Arglwydd, canys ei drugareddau ef ydynt aml iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn.

14Yna y rhoddes yr Arglwydd haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr.

15A Duw a anfonodd Ornan y Jebusiad.

16A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac Yna y trodd Ornan, ac a ganfu yr angel, a’i bedwar mab gydag ef a ymguddiasant; ac Ornan oedd yn dyrnu gwenith.

21A Dafydd a ddaeth at Ornan; ac edrychodd Ornan, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i wyneb tua’r ddaear.

22A dywedodd Dafydd wrth Ornan, Moes i mi le y llawr dyrnu, fel yr adeiladwyf ynddo allor i’r Arglwydd: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

23Ac Ornan a ddywedodd wrth Dafydd, Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd‐offrwm: hyn oll a roddaf.

24A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Ornan, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r Arglwydd yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad.

25Felly 2 Sam 24:24y rhoddes Dafydd i Ornan am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys.

26Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr Arglwydd; ac Lef 9:24; 2 Cron 3:1efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm.

27A dywedodd yr Arglwydd wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn.

28Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r Arglwydd wrando arno ef yn llawr dyrnu Ornan y Jebusiad, efe a aberthodd yno.

29Ond tabernacl yr Arglwydd, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn 1 Bren 3:4; Pen 16:30 2 Cron 1:3Gibeon:

30Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn â Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help