1 delwau.
9Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd‐dra.
10Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr.
11Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.
12Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer.
13Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac peth yn treiglo ym mlaen corwynt.
14Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
