2 Brenhinoedd 17 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Drygionus lywodraeth Hosea. 3 Wedi ei ddarostwng gan Salmaneser, y mae yn cyd‐fwriadu â So brenin yr Aifft yn ei erbyn ef. 5 Caethgludo Samaria am eu pechodau. 24 Y cenhedloedd dieithr, a blanasid yn Samaria, wedi i lewod eu blino, yn gwneuthur cymysg o amryw grefydd.

1Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef.

3A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion.

4A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy.

5Yna Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.

25Ac yn nechrau eu trigfan hwy yno, nid ofnasant hwy yr Arglwydd; am hynny yr Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a laddasant rai ohonynt.

26Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod Duw y wlad: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod Duw y wlad.

27Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad.

28Felly un o’r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd.

29Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt.

30A gwŷr a ddygasent oddi yno.

34Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, Gen 32:28; 35:10; 1 Bren 18:31yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.

35A’r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Barn 6:10Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

36Ond yr Arglwydd yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr, ac Exod 6:6â braich estynedig, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymwch, ac iddo ef yr aberthwch.

37Y deddfau hefyd, a’r barnedigaethau, a’r gyfraith, a’r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i’w gwneuthur byth; ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

38Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr:

39Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion.

40Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy.

41Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni’r Arglwydd, ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig; eu plant a’u hwyrion: fel y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help