Micha 3 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Creulondeb y tywysogion. 5 Ffalsedd y proffwydi: 8 a diofalwch pob un o’r ddau.

1Dywedais hefyd, Gwrandewch, atolwg, penaethiaid Jacob, a thywysogion tŷ Israel: fel na chaffoch weledigaeth; a thywyllwch i chwi, fel na chaffoch ddewiniaeth: yr haul hefyd a fachluda ar y proffwydi, a’r dydd a ddua arnynt.

7Yna y gweledyddion a gywilyddiant, a’r dewiniaid a waradwyddir; ie, pawb ohonynt a gaeant ar eu genau, am na rydd Duw ateb.

8Ond yn ddiau llawn wyf fi o rym gan ysbryd yr Arglwydd, ac o farn a nerth, Esa 58:1i ddangos ei anwiredd i Jacob, a’i bechod i Israel.

9Gwrandewch hyn, atolwg, penaethiaid tŷ Jacob, a thywysogion tŷ Israel, y rhai sydd ffiaidd ganddynt farn, ac yn gwyro pob uniondeb.

10Jer 22:13Adeiladu Seion y maent Esec 22:27; Seff 3:3â gwaed, a Jerwsalem ag anwiredd.

11Esa 1:23; Hos 4:18; Pen 7:3Ei phenaethiaid a roddant farn er gwobr, a’i hoffeiriaid a ddysgant er cyflog, a’r proffwydi a ddewiniant er arian; Esa 48:2; Rhuf 2:17eto wrth yr Arglwydd yr ymgynhaliant, gan ddywedyd, Onid yw yr Arglwydd i’n plith? ni ddaw drwg arnom.

12Am hynny Jer 26:18; Pen 1:6o’ch achos chwi yr erddir Seion fel maes, Salm 79:1a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ fel uchel leoedd y goedwig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help