Lefiticus 26 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Am ddelw‐addoliaeth. 2 Am grefydd. 3 Bendith i’r rhai a gadwant y gorchmynion; 14 a melltith i’r rhai a’u torrant. 40 Duw yn addo cofio y rhai a edifarhânt.

1Na wnewch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

2ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.

7Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.

8A Deut 32:30; Jos 23:10phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf.

9A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.

10A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.

11Esec 37:26Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.

122 Cor 6:16A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.

13Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.

14 Deut 28:15; Galar 2:17; Mal 2:2 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn;

15Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod;

16Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a Job 31:8; Jer 5:17; 12:13heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a’i bwyty:

17Ac Pen 17:10a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; Salm 53:5; Diar 28:1ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.

18Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau.

19A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a’ch tir chwi fel pres:

20A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.

21Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.

22Deut 32:24; Esec 5:17Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleiha chwi; Barn 5:6; 2 Cron 15:5; Esa 33:8; Galar 1:4a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.

23Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;

242 Sam 22:27; Salm 18:26Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.

25A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.

26Esa 3:1; Esec 4:16; 5:16; 14:13A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a Micha 6:14; Hag 1:6chwi a fwytewch, ac ni’ch digonir chwi.

27Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;

28Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau.

29Deut 28:53; Esec 5:10A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch.

30Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac 2 Cron 34:7; Esec 6:4, 5, 13a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.

31A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac Salm 74:7; Galar 1:10; Esec 9:6; 21:7a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.

32A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd.

33Deut 4:27; 28:62, 64Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a’ch tir fydd ddiffeithwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.

342 Cron 36:21Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau.

35Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Pen 25:2Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.

36A’r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a Diar 28:1thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.

37A Esa 10:4syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.

38Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwyty.

39A’r rhai a weddillir ohonoch, Deut 4:27; 30:1; Neh 1:9; Jer 3:25; 29:12, 13; Esec 4:17; 6:9; 20:43; 24:23; 33:10; 36:31; Hos 5:15; Sech 10:9a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant.

40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi;

41A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon Edrych Jer 6:10; 9:25, 26; Rhuf 2:29; Col 2:11ddienwaededig, a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth:

42Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a’m cyfamod hefyd ag Isaac, a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd.

43A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau.

44Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, Deut 4:31; Rhuf 11:2nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt.

45Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.

46Dyma’r deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help