1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel.
5A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel.
6Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a’r gydag ef.
18A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.
19Ac a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa:
27A defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, Pen 3:7, 8, 25, 31, 36y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd.
31A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
32A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,
33A deuddeg a thrigain mil o eidionau,
34Ac un fil a thrigain o asynnod,
35Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.
36A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
37A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.
38A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain.
39A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thrigain.
40A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain.
41A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, Edrych Pen 18:11, 19megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
42Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,
43Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;
44Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;
45Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;
46Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg.
47Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
48A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd:
49A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom.
50Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd.
51A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.
52Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.
53(Deut 20:14Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)
54A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.