1A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?
2Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato Duw; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae.
3A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.
4Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti.
5A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.
6Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl.
7a’i fynegi i ti;
13fuan; a thyred i’r pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel.
20A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.
21Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr Arglwydd.
22Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymaith.
23Ac am y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?
31Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrheir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.
32A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?
33A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.
34Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef.
35A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef.
36Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.
37A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti?
38A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.
39A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.
40A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg y rhai hyn i’r ddinas.
41A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.
42A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.