2 Cronicl 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Brenhines Seba yn rhyfedd ganddi ddoethineb Solomon. 13 Aur Solomon, 15 a’i dariannau, 17 a’i orseddfainc ifori, 20 a’i lestri, 23 a’i anrhegion, 25 a’i gerbydau a’i feirch, 26 a’i deyrnged. 29 Pa hyd y teyrnasodd efe, a’i farwolaeth.

1A weithredoedd di, ac am dy ddoethineb:

6Eto ni choeliais i’w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i.

7Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.

8Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th hoffodd di, i’th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw: oherwydd cariad dy Dduw tuag at Israel, i’w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.

9A hi a roddodd i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon.

10Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr.

11A’r brenin a wnaeth o’r coed algumim risiau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i’r cantorion: ac ni welsid eu bath o’r blaen yng ngwlad Jwda.

12A’r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a’r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i’r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.

13A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;

14Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a’r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.

15A’r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.

16A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A’r brenin a’u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.

17A’r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a’i gwisgodd ag aur pur.

18A chwech o risiau oedd i’r orseddfa, a throedle o aur, ynglŷn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i’r eisteddle, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau;

19A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu. Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas.

20A holl lestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon.

21Canys llongau y brenin oedd yn myned i Tarsis gyda gweision Hiram: unwaith yn y tair blynedd y deuai llongau Tarsis yn dwyn aur, ac arian, ac ifori, ac epaod, a pheunod.

22A’r brenin Solomon a ragorodd ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

23A holl frenhinoedd y ddaear oedd yn ceisio gweled wyneb Solomon, i wrando ei ddoethineb a roddasai Duw yn ei galon ef.

24A hwy a ddygasant bob un ei anrheg, llestri arian, a llestri aur, a gwisgoedd, arfau, a pheraroglau, meirch, a mulod, dogn bob blwyddyn.

25Ac afon hyd wlad y Philistiaid, a hyd derfyn yr Aifft.

27A’r brenin a wnaeth yr arian yn Jerwsalem fel cerrig, a’r cedrwydd a wnaeth efe fel y sycamorwydd yn y doldir, o amldra.

281 Bren 10:28; Pen 1:16Ac yr oeddynt hwy yn dwyn meirch i Solomon o’r Aifft, ac o bob gwlad.

29A’r rhan arall o 1 Bren 11:41weithredoedd Solomon, cyntaf a diwethaf, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Ahïa y Siloniad, ac yng ngweledigaethau Pen 12:15; 13:22Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam mab Nebat?

30A Solomon a deyrnasodd yn Jerwsalem ar holl Israel ddeugain mlynedd.

31A Solomon a hunodd gyda’i dadau, a chladdwyd ef yn ninas Dafydd ei dad; a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help