1 Molwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
2 Salm 103:20, 21 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
3Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.
4Molwch ef, 1 Bren 8:27nef y nefoedd; Gen 1:7a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5Molant enw yr Arglwydd: oherwydd Gen 1:1, 6; Salm 33:6, 9efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
6 Salm 89:37; 119:90, 91; Jer 31:35, 36; 33:25 A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
7Molwch yr Arglwydd o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:
8Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
9Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:
10Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
11Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
12Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:
13Molant enw yr Arglwydd: oherwydd Salm 8:1; Esa 12:4ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
14 Salm 75:10 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, Salm 149:9moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
