1Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan;
2Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen;)
3Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd.
9A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim.
11A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.
12A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a’r Arglwydd a nerthodd llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab.
16Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd, ac a’i gwregysodd dan ei ddillad, ar ei glun ddeau.
17Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab. Ac Eglon oedd ŵr tew iawn.
18A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg, efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg.
19Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal, ac a ddywedodd, Y mae i mi air o gyfrinach â thi, O frenin. Dywedodd yntau, Gosteg. A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef.
20Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.
21Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy, ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau, ac a’i brathodd hi yn ei boten ef:
22A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn, a’r braster a ymgaeodd am y llafn, fel na allai dynnu y ddager allan o’i boten; a’r dom a ddaeth allan.
23Yna Ehwd a aeth allan trwy’r cyntedd, ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno, ac a’u clodd.
24Pan aeth efe ymaith, ei weision a ddaethant: a phan welsant, wele, fod drysau yr ystafell yn gloëdig, hwy a ddywedasant, Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf.
25A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.
26Ac Ehwd a ddihangodd, tra fuant hwy yn aros; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau, ac a ddihangodd i Seirath.
27A phan ddaeth, rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb.
30Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel. A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd.
31Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath; ac efe a drawodd o’r Philistiaid chwe channwr irai ychen: yntau hefyd a waredodd Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.