Genesis 44 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dyfais Joseff i atal ei frodyr. 14 Ufudd ddeisyfiad Jwda at Joseff.

1Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau’r gwŷr o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un yng ngenau ei sach.

2A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff, yr hwn a ddywedasai efe.

3Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod.

4Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda?

5Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

6Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy.

7Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth.

8Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di?

9Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.

18Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.

19Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?

20Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.

21Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Pen 42:15Dygwch ef i waered ataf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.

22A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad.

23Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Pen 43:3, 5Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.

24Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.

25A Pen 43:2dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.

26Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni.

27A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch Pen 46:19mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;

28Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Pen 37:33Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:

29Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo Pen 42:38niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.

30Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod 1 Sam 18:1ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau;)

31Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.

32Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad, gan ddywedyd, Pen 43:9Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.

33Gan hynny weithian, atolwg, arhosed dy was dros y llanc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr:

34Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad, a’r llanc heb fod gyda mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help