Salm 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 91 Dafydd yn moliannu Duw am wneuthur barn; 11 ac yn annog eraill i’w glodfori ef, 13 ac yn gweddïo ar iddo gael achos i’w foliannu ef.I’r Pencerdd ar Muth‐labben, Salm Dafydd.

1Clodforaf di, O Arglwydd, â’m holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2Llawenychaf a gorfoleddaf ynot: canaf i’th enw di, yn gyfiawn.

5Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol; Ha elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.

7Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.

8Ac noddfa i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.

10A’r rhai a adwaenant dy enw, a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient.

11Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.

12 Gen 9:5 Pan ymofynno efe am waed, efe a’u cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol.

13Trugarha wrthyf, Arglwydd; gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:

14Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.

15 Salm 7:15, 16; 35:8; 57:6; 94:13; Diar 5:22; 22:8; 26:27 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

16Adwaenir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Salm 19:14; 92:3Higgaion. Sela.

17Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.

18Canys nid anghofir y tlawd byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.

19Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20Gosod, Arglwydd, ofn arnynt: fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help