Lefiticus 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Aberthau dros bechod, 3 a wnelai yr offeiriad, 13 neu yr holl gynulleidfa, 22 neu y pennaeth, 27 neu y bobl, mewn anwybod.

1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;

28Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe.

29A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

30A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

31A Pen 3:14thynned ei holl wêr hi, Pen 3:3fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, Exod 29:18yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo.

32Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl.

33A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm.

34A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.

35A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, Pen 3:5fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help