Actau’r Apostolion 6 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Yr apostolion, yn chwennych nad esgeulusid y tlodion o ran eu lluniaeth corfforol, ac yn ofalus hefyd eu hunain am gyfrannu gair Duw, lluniaeth yr enaid, 3 yn ordeinio swydd diaconiaeth i saith o wŷr etholedig; 5 o’r rhai y mae Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, yn un: 12 ei ddal ef gan y rhai a waradwyddodd efe wrth ymresymu; 13 a’i gyhuddo ar gam, am gablu yn erbyn y gyfraith a’r deml.

1Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol.

2Yna y deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws disgyblion, ac a ddywedasant, Exod 18:17Nid yw gymesur i ni adael gair Duw, a gwasanaethu byrddau.

3Am hynny, frodyr, Deut 1:13; Pen 1:21; 16:2; 1 Tim 3:7edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o’r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.

4Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.

5A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, Pen 11:24gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Pen 8:5, 26; 21:8Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:

6Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, Pen 8:17; 13:3; 1 Tim 4:14; 5:22; 2 Tim 1:6hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy.

7A Pen 12:24; 19:20|ACT 19:20; Col 1:6gair Duw a gynyddodd; a rhifedi’r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.

8Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.

9Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan:

10Ac Luc 21:15; Edrych Exod 4:12; Esa 54:17ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.

11Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.

12A hwy a gynyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a’i cipiasant ef, ac a’i dygasant i’r gynghorfa;

13Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith:

14Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, y Pen 25:8distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni.

15Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help