1 berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw.
14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 Ioan 1:45; Act 3:22; 7:37 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch;
16Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, Pen 9:10yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Exod 20:19; Heb 12:19Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.
17A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Pen 5:28Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant.
18Ioan 1:45; Act 3:22; 7:37Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a Esa 51:16rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac Ioan 4:25efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.
19A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo.
20Pen 13:5; Jer 14:14; Sech 13:3Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.
21Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd?
22Jer 28:9Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, Edrych Pen 13:2a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
