Salm 72 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 721 Dafydd, wrth weddïo dros Solomon, yn dangos daioni a gogoniant ei deyrnas ef yn y cysgod, ond mewn gwirionedd, teyrnas Crist: 18 yn bendithio Duw.Salm gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.

7Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.

8 Edrych Exod 23:31; Salm 2:8; 80:11; 89:25; Sech 9:10 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.

9O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: Esa 49:23; Micha 7:17a’i elynion a lyfant y llwch.

10 Salm 45:12; 68:29; Esa 49:7; 60:9 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

11Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.

12Canys efe Job 29:12a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.

13Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

14Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a Salm 116:15gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.

17Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac Gen 12:3; 22:18; Jer 4:2ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig.

18Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, Salm 136:4yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

19Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen.

20Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help