1 Samuel 28 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Achis yn hyderu ar Dafydd. 3 Saul wedi difetha y dewiniaid, 4 yn ei ofn, wedi i Dduw ei wrthod, 7 yn myned at ddewines: 9 a honno yn codi i fyny Samuel. 15 Saul, wrth glywed ei ddinistr, yn llewygu; 21 a’r wraig a’i weision yn ei nerthu ef â bwyd.

1A’r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd, ti a’th wŷr.

2A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.

3A iddo, mewn enbydrwydd, ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf:

22Yn awr gan hynny gwrando dithau, atolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan elych i’th ffordd.

23Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, Ni fwytâf. Eto ei weision a’r wraig hefyd a’i cymellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddodd ar y gwely.

24Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ; a hi a frysiodd, ac a’i lladdodd ef, ac a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a’i pobodd yn gri:

25A hi a’i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help