2 Samuel 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd, tra yr ydoedd Joab yn gwarchae ar Rabba, yn godinebu gyda Bathseba: 6 yn anfon am Ureias adref, i geisio coluro ei odineb: 14 yn anfon llythyr gydag ef at Joab, i beri iddo farw. 18 Joab yn danfon newyddion o’i farwolaeth ef i Dafydd. 26 Dafydd yn cymryd Bathseba yn wraig iddo.

1Ac wedi pen y flwyddyn, yn yr amser y byddai y brenhinoedd yn myned allan i ryfel, Bathseba merch Elïam, gwraig Ureias yr Hethiad?

4A Dafydd a anfonodd genhadau, ac a’i cymerth hi; a hi a ddaeth i mewn ato ef, ac lwyddiant Joab, ac am lwyddiant y bobl, ac am ffyniant y rhyfel.

8Dywedodd Dafydd hefyd wrth Ureias, Dos i waered i’th dŷ, a golch dy draed. Ac Ureias a aeth allan o dŷ y brenin, a saig y brenin a aeth ar ei ôl ef.

9Ond Ureias a gysgodd wrth ddrws tŷ y brenin gyda holl weision ei arglwydd, ac nid aeth i waered i’w dŷ ei hun.

10Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Nid aeth Ureias i waered i’w dŷ ei hun. A Dafydd a ddywedodd wrth Ureias, Onid o’th daith yr ydwyt ti yn dyfod? paham nad eit ti i waered i’th dŷ dy hun?

11A dywedodd Ureias wrth Dafydd, Yr arch, ac Israel hefyd, a Jwda, sydd yn aros mewn pebyll; a y naill fel y llall a ddifetha y cleddyf: cadarnha dy ryfel yn erbyn y ddinas, a distrywiwch hi; a chysura dithau ef.

26A phan glybu gwraig Ureias farw Ureias ei gŵr, hi a alarodd am ei phriod.

27A phan aeth y galar heibio, Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd hi i’w dŷ, i fod iddo yn wraig; a hi a ymddûg iddo fab. A drwg yng ngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethai Dafydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help