1A bu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd.
2A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.
3Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.
4Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi.
5Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd rhyfeddol yn eu plith hwy, maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad.
19Ac Edrych Exod 19:21; Num 4:5, 15, 20efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd, ie, trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A’r bobl a alarasant, am i’r Arglwydd daro’r bobl â lladdfa fawr.
20A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni?
21A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath‐jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
