1 Pen 5 ; 6Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: Pen 21:22sancteiddiolaf yw.
2Pen 1:3, 5, 11; 4:24, 29, 33Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.
3A’i Exod 29:13; Pen 3:4, 10; 4:8, 9holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a’r weren fol.
4A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith.
5A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw.
6Num 18:9, 10Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw.
7Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd Pen 6:26yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a’i piau.
8A’r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe.
9A Pen 2:3, 10; Num 18:9phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymo.
10A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd.
11Pen 3:1; 22:18, 21Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i’r Arglwydd.
12Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda’r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew.
13Heblaw’r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda’i hedd‐aberth o ddiolch.
14Ac offrymed o hyn un dorth o’r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.
15A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore.
16Ond Pen 19:7, 8os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef; y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono.
17Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.
18Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i’r hwn a’i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a’r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd.
19A’r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a’r cig arall, pob glân a fwyty ohono.
20A’r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, Pen 15:3a’i aflendid arno; Gen 17:14torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
21Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag Pen 12; 13; 15aflendid dyn, neu ag anifail Pen 11:24, 28aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pen 3:17Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr.
24Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef.
25Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o’r hwn yr offrymir aberth tanllyd i’r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a’i bwytao o fysg ei bobl.
26Gen 9:4; Pen 3:17; 17:14Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o’r eiddo aderyn, nac o’r eiddo anifail.
27Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd.
30Pen 3:3, 4, 9, 14Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; Exod 29:24, 27y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
31A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion.
32Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad, o’ch ebyrth hedd.
33Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a’r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan.
34Oherwydd Exod 29:28; Pen 10:14 Num 18:18; Deut 18:3parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd, ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i’w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.
35Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd;
36Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, Exod 40:13, 15; Pen 8:12, 30y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.
37Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd‐offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cysegriadau, a’r aberth hedd;
38Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.