1Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, dengair, a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi.
5Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.
6A dyddiau cyntaf: Exod 32:14, 33; 33:17; Pen 9:19a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di.
11Exod 32:34; 33:1A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.
12Ac yr awr hon, Israel, Micha 6:8beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, Pen 6:5; Mat 22:37a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
13Cadw gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?
14Wele, Exod 19:5; Salm 115:16; 148:4y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, Gen 14:19; Salm 24:1y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi.
15Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir.
16Edrych Lef 26:41; Pen 30:6; Jer 4:4; Rhuf 2:28, 29; Col 2:11Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach.
17Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Dat 17:14; 19:16 Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn 2 Cron 19:7ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr.
18Salm 68:5; 146:9Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi’r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.
19Lef 19:33, 34Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft.
20Pen 6:13; Mat 4:10; Luc 4:8Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd Pen 13:4y glyni, ac i’w enw ef y tyngi.
21Exod 15:2; Salm 22:3; Jer 17:14Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.
22Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft Gen 46:27; Exod 1:5; Act 7:14yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di Gen 15:5fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.